Prosiect personol oedd hon er mwyn tynnu sylw at fusnesau bach anhygoel sydd yn yr ardal.
Er mwyn datblygu ei sgiliau Cinema 4D fe wnaeth Meurig fodelu'r trelar yma ar lluniau go iawn ac yna ychwanegu manylder a goleuo i'r sín cyn eu rendro yn Octane.
Fel welwch yn y lluniau isod, unwaith roedd y modelu wedi cwblhau, mater weddol syml oedd newid y goleuo yn yr olygfa er mwyn creu delweddau gwahanol.
Comisiynwyd gan A-Z Painting i ddarparu gwefan deinameg newydd yn ogystal a phecyn brandio a logo newydd.
Ar gyfer y cwmni peintio ac addurno yma penderfynwyd optio am wefan glan a chlir er mwyn adlewyrchu safon eu gwaith addurno.
Mae'r gwefan wedi ei gysylltu gyda cyfeiriadur busnes Yell.com er mwyn gallu mewnforio adolygiadau newydd a'u arddangos ar y gwefan. Mae'r gwefan hefyd yn cynnwys galeri lluniau sydd wedi ei gysylltu gyda Facebook er mwyn symleiddio y proses o gyhoeddi lluniau newydd i'r cleient.
Wrth drafod anghenion y cleient penderfynwyd optio am logo syml oedd yn ymgorffori rhai o'r elfennau dylunio gwreiddiol. Bu'r cleient optio am logo wedi ei animeiddio hefyd er mwyn gallu tynnu sylw i'r busnes ar y cyfryngau cymdeithasol.