logo1

Arloeswyr Digidol

mewn Dylunio Gwefannau Cynnwys Digidol Dylunio Brandio

DEUNYDDIAU DIGIDOL AR GYFER EICH BUSNES

Yn Clic Cymru rydym yn arbenigo mewn creu cynnwys digidol rhagorol o safon sydd yn gweithio i chi.

Rydym yn dîm profiadol a thalentog sydd pob tro yn mynd gam ymhellach i ddatblygu atebion unigryw ar gyfer eich anghenion digidol.

Rydym yma i'ch helpu i gyfleu stori unigryw eich brand ar y We.

CREUWCH DDEUNYDDIAU 
DIGIDOL RHAGOROL

gyda Clic Cymru

CLIC CYMRU

Yn syml, rydym yn creu Gwefannau deiniadol a gweithredol yn ogystal a deunyddiau digidol ysbrydoledig.

Mae presenoldeb eich busnes ar-lein yn bwysig ofnadwy ond yn anffodus mae sefyll allan gyda gwefan arbennig a cynnwys digidol rhagorol yn gallu bod yn gostus iawn.

Ein nod yma yn Clic Cymru yw darparu cynnwys digidol rhagorol am bris teg er mwyn helpu eich brand i sefyll allan ar-lein.

EIN GWAITH

Rydym wrth ein boddau gyda'r her o greu cynnwys digidol sydd nid yn unig yn ddeiniadol ond hefyd yn weithredol.

Mae pob prosiect yn cyflwyno heriau unigol a rydym yn anelu i greu datrysiadau sydd wedi eu teilwro i'ch busnes chi.

Sicrhewch bod eich brand yn sefyll allan ar-lein ac adroddwch stori unigryw eich busnes gyda ni yma yn Clic Cymru.

Cewch gip olwg ar rhai o'n prosiectau blaenorol isod.

GYRRWCH
NEGES
HEDDIW

Cysylltwch a ni

A-Z Painting

Gwefan & Pecyn Brandio

PUFFIN HOLIDAY COTTAGES

Gwefan & Pecyn Brandio

C'MON MIDFFILD

Cinema 4D
Modelu & Rendro

THE ORDER OF THE SKULLS

Gwefan & Prosiect NFT

LLOFFT BACH

Cinema 4D
Modelu & Rendro

MWGWD

Delweddu Cynnyrch

Mae'n amser i ddweud

Eich Stori.

SUT I GYSYLLTU GYDA NI

Clic Cymru
Caernarfon, Gwynedd

A-Z PAINTING

Gwefan & Pecyn Brandio

Comisiynwyd gan A-Z Painting i ddarparu gwefan deinameg newydd yn ogystal a phecyn brandio a logo newydd.

Ar gyfer y cwmni peintio ac addurno yma penderfynwyd optio am wefan glan a chlir er mwyn adlewyrchu safon eu gwaith addurno.

Mae'r gwefan wedi ei gysylltu gyda cyfeiriadur busnes Yell.com er mwyn gallu mewnforio adolygiadau newydd a'u arddangos ar y gwefan. Mae'r gwefan hefyd yn cynnwys galeri lluniau sydd wedi ei gysylltu gyda Facebook er mwyn symleiddio y proses o gyhoeddi lluniau newydd i'r cleient.

Cewch weld y gwefan llawn isod.

Ewch i'r gwefan

Wrth drafod anghenion y cleient penderfynwyd optio am logo syml oedd yn ymgorffori rhai o'r elfennau dylunio gwreiddiol. Bu'r cleient optio am logo wedi ei animeiddio hefyd er mwyn gallu tynnu sylw i'r busnes ar y cyfryngau cymdeithasol.